Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Car Tew (Cyfanswm: 53)

 
(0, 4) 341 Duw fo'n gwarchod, y câr Pobun, beth yw rhyw gyfarchiad fel yna?
(0, 4) 342 Beth sydd o'i le arnat?
 
(0, 4) 363 Ni bydd hynny ddim mor hawdd i chwi, myn gafr, achos y mae'ch cogydd yn un mor dda, a'r gwin heblaw hynny yn twymo'r gwaed.
(0, 4) 364 'Rwyf i'n ddigon cartrefol lle'r wyf.
 
(0, 4) 367 Ni bydd ef ddim yn gyffredin yn siarad fel hyn.
 
(0, 4) 396 Mi wn.
(0, 4) 397 Y tu ôl i'r talcen y mae'r drwg, rhyw sychter yn yr ymennydd.
(0, 4) 398 Mi welais yr un helynt ar fy nhad fy hun, [fe fyddai'n aml fel hyn].
(0, 4) 399 Rhaid iti yfed llwnc er mwyn i'r gwin ireiddio d'ymennydd di.
(0, 4) 400 Hwdiwch, hogiau!
(0, 4) 401 Poethwch y gwin nes bod yr angerdd yn codi i'r awyr, a dodwch sinamwn a sinsir ynddo.
 
(0, 4) 455 [Fy nghyfaill tenau, gwae ni, gwae ni, cawn glywed ei gân am yr eira oer!]
 
(0, 4) 485 O ryw ddrwg yn y gwaed y cyfyd peth fel hyn.
(0, 4) 486 Mi baraf dwymo cwpanaid o win eto i chwi.
 
(0, 4) 514 Ni chlywaf i ddim llef.
 
(0, 7) 688 Gan bwyll, fy nghâr Pobun.
(0, 7) 689 Os gwrandewi arnaf i, dim ond un gair—gan bwyll!
 
(0, 7) 691 Dim ond gan bwyll.
(0, 7) 692 Nid am adael y mae'r sôn—cywilydd i mi fyddai'ch gadael mewn trybini,
 
(0, 7) 694 [Cymerwn, fel y dywedwyd, ynwir!
(0, 7) 695 Gwelwch ein bod yn ffyddlon i chwi.]
 
(0, 7) 697 Perthynasau ydym ni!
 
(0, 7) 699 [Do...
(0, 7) 700 Mi wn, Pobun...
(0, 7) 701 Felly y bu, ond nid wyf i'n deall y cwbl!]
 
(0, 7) 703 [Ie, fel y dywedwyd—]
 
(0, 7) 705 [Ie, fel y dywedwyd eisoes, "Mae gwaed yn dewach na dŵr."]
 
(0, 7) 707 [Ha, byth?
(0, 7) 708 Yn siwr, lle ni bo dim byd, yno bydd hawl y brenin wedi colli.]
 
(0, 7) 710 [Nid wrth glustiau byddar yr oeddych yn llefaru.]
 
(0, 7) 713 [Ai sicr gennych i chwi ddeall y gennad yn iawn?]
 
(0, 7) 715 [Y geiriau a'u hystyr, a ddeallsoch chwi'r cwbl yn iawn?]
 
(0, 7) 717 Hynny yw, meddaf i—rhyw ymwelwr heb ei eisiau ydoedd?
(0, 7) 718 H'm, gâr!
 
(0, 7) 720 Felly'r ydych yn barnu megis finnau?
(0, 7) 721 Ie, fel y dywedwyd, ie, Duw'n rhwydd gyda thi, fy nghâr, Pobun, dyna i chwi'r cwbl sy gennyf i i'w ddywedyd.
 
(0, 7) 723 [Ond odid nad oes i ti ryw ddymuniad arall?
(0, 7) 724 Siarad yn eglur, y câr.]
 
(0, 7) 727 Pa fath gyfrif, dywed?
 
(0, 7) 730 [Beth?
(0, 7) 731 Y tu draw?
(0, 7) 732 Ai dyna fel y mae hi?
(0, 7) 733 Na, Pobun, nid af i yno, ac ni'm cei i i'th ganlyn!
(0, 7) 734 Byddai well gennyf fod mewn tywyllwch ar fara a dŵr am ddeng mlynedd!]
 
(0, 7) 737 Hai, ŵr!
(0, 7) 738 Beth sydd?
(0, 7) 739 Cymer galon, ddyn, a phaid â dechrau cwyno!
(0, 7) 740 Ond rhaid iti adael i mi ddywedyd hyn—ni ddygi di monof i unwaith ar hyd y llwybr yna.
 
(0, 7) 746 [{Gan aros ennyd a dywedyd dros ei ysgwydd.}
(0, 7) 747 Ni elli di mo'n hudo ni, gad hynny heibio, ond y mae i mi enethig lân adref sy'n awyddus dros ben am deithio.
(0, 7) 748 Pe bai honno wrth dy fodd, fe'i rhoddwn iti o ewyllys da.
(0, 7) 749 Efallai yr ai hi gyda thi i'r daith.]
 
(0, 7) 751 Aros yma, a dymuno pob da i tithau!